Female Entrepreneurs of Ireland and Wales

CANLYNIADAU YMCHWIL - CYMRU

Dechreuwyd ar yr ymchwil rhagarweiniol ym mis Ebrill 2006 trwy dargedu dau grŵp, sef menywod a oedd eisoes wedi sefydlu busnes (ôl-gychwynnol) a menywod a oedd yn ystyried cychwyn busnes (cyn-gychwynnol). Bwriad yr ymchwil oedd ceisio deall anghenion penodol menywod yn yr ardal a llunio cwrs hyfforddi sy’n diwallu’r anghenion hyn. Roedd canlyniad yr arolwg yn eithaf cadarnhaol, gan ddangos bod menywod yn Ne Orllewin Cymru yn awyddus i ddysgu mwy am fenywod mewn busnes. Dangosodd canlyniadau’r ymchwil hefyd fod gan Dde Orllewin Cymru lefel uchel o entrepreneuriaeth, a 7.2% o fenywod yn yr ardal yn hunangyflogedig. Mae’r ffigwr hwn yn uwch na’r cyfartaledd i Gymru, sydd, yn ôl yr amcangyfrif yn 4.1% i fenywod.

Canlyniadau'r Grŵp Ôl-Gychwynnol:

O’n hymchwil ar fenywod sydd eisoes wedi sefydlu busnes rydym wedi canfod fod y grŵp hwn yn cael eu cynrychioli amlaf yn y sectorau Croeso a Thwristiaeth (23%) a Chrefft (15%) ond heb eu cynrychioli’n ddigonol yn y diwydiannau adeiladu, cyfanwerthu, meddalwedd a datblygu, a diwydiannau’n ymwneud â busnes a gwasanaethau ariannol (1% yn ôl eu trefn), ac mae hyn yn gyson â thystiolaeth arall. Fel arfer, oed y menywod sy’n berchen busnes yn Ne Orllewin Cymru yw rhwng 40 a 59 ac maent wedi cyrraedd addysg lefel dau neu tri. Yn ddiddorol, mae mwyafrif y menywod wedi sefydlu eu busnes fel masnachwyr unigol ac mae mwy na 75% o fenywod y gwnaed arolwg arnynt yn berchen 100% o’u busnesau.
 
Oedran cyfartalog busnesau sy'n cael eu rhedeg gan fenywod yn Ne Orllewin Cymru yw 11.7 o flynyddoedd sy’n adlewyrchu’r angen am fwy o gefnogaeth a hyfforddiant i fenywod yn yr ardal hon. Mae mwyafrif y menywod yn yr astudiaeth wrthi’n datblygu eu busnesau a mynegodd 88% ddiddordeb i ddatblygu eu busnesau ymhellach. Fodd bynnag, y cyfyngiadau pennaf ar dwf busnesau menywod yn Ne Orllewin Cymru yw cyllid (29%), staff (2o%) a gwerthiant annigonol (1%). Nodwyd sawl rheswm arall hefyd gan gynnwys lleoliad a diffyg lle i ehangu.

Ychydig dan hanner y rhai a ymatebodd sydd wedi dilyn cyrsiau hyfforddiant menter, a 22% yn unig o’r rhain sydd wedi dilyn cwrs 'Cychwyn Eich Busnes Eich Hun' cyn cychwyn. Mae mwyafrif y menywod wedi derbyn hyfforddiant mewn marchnata, cyfrifeg a chyfathrebu. Dengys ein canlyniadau yr hoffai menywod gael hyfforddiant parhaus ar gydbwyso gwaith a bywyd, magu hyder ac edrych ar ôl yr hunan.

I weld canlyniadau’r ymchwil yn eu crynswth yn ogystal â dadansoddiad cymharol â’r ymchwil a wnaed yn Iwerddon ewch i Ardal Aelodau 





Female Entrepreneurs of Ireland and Wales