Female Entrepreneurs of Ireland and Wales

Mae amcanion y rhaglen hon yn cynnwys y canlynol:
 
Objectives
  1. Creu amgylchedd a fydd yn:-

- Cynyddu lles economaidd unigolion a theuluoedd o fewn i'r ardaloedd priodol

- Lleihau nifer y graddedigion sy’n gadael yr ardaloedd

- Cynyddu lefel perchnogaeth busnes a chyfleoedd rheoli i fenywod yn yr ardaloedd

  1. Cynyddu lefel cyfranogiad menywod mewn sectorau diwydiannol uchel eu gwerth yn y ddwy ardal
  1. Datblygu rhwydweithiau cryf ar draws y ffin rhwng Iwerddon a Chymru i fusnesau sy’n cael eu rhedeg gan fenywod
  1. Datblygu rhwydweithiau cryf ar draws y ffin rhwng Iwerddon a Chymru ar gyfer academyddion sy’n addysgu menywod mewn busnes ac sy’n ymchwilio i’r maes hwn
  1. Sefydlu proses addysg ryngranbarthol i fusnesau sy'n eiddo i fenywod yn Iwerddon a Chymru gan alluogi menywod i ddysgu o brofiadau’i gilydd.
  1. Nabod y cyfyngiadau ar ddatblygiad busnesau menywod yn Iwerddon a Chymru, a datblygu rhaglen addas i leihau’r cyfyngiadau hyn
  1. Llunio rhaglen hyfforddi fodiwlaidd i fenywod ym maes entrepreneuriaeth gan ystyried canlyniadau’r astudiaeth y cyfeiriwyd ati uchod
  1. Cynyddu lefel Technolegau Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) a gwneud y defnydd gorau posibl ohonynt mewn rhaglenni menter sy’n rhoi’r pwyslais ar fenywod
  1. Darparu rhaglen hyfforddi beilot yn y ddwy ardal a gwerthuso canlyniadau’r rhaglen.
  1. Cynyddu lefel cyflogaeth yn gyffredinol yn y ddwy ardal o ganlyniad i’r uchod
  1. Datblygu rhaglenni addysg cynaliadwy a fydd yn dal i gynyddu lefel y busnesau sy’n cael eu rhedeg gan fenywod, a chreu cyfoeth yn Ne Ddwyrain Iwerddon a De Orllewin Cymru, fel ei gilydd




Female Entrepreneurs of Ireland and Wales