Female Entrepreneurs of Ireland and Wales

Ystyr y llythrennau FEIW yw Female Entrepreneurship in Ireland and Wales - Entrepreneuriaeth Menywod yn Iwerddon a Chymru. Mae’r prosiect hwn, a gyllidir gan Interreg IIIA, yn cael ei redeg gan Ganolfan Entrepreneuriaeth WIT (Sefydliad Technoleg Waterford) mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru Aberystwyth. Deilliodd y prosiect o ddyhead i hwyluso twf a datblygiad busnesau dan arweiniad menywod yn Ne Ddwyrain Iwerddon a De Orllewin Cymru. Yn hyn o beth felly, bydd y prosiect yn llunio a rhedeg rhaglen hyfforddi menter, yn benodol i fenywod sy’n berchen busnesau yn y ddwy ardal.

Cychwynnodd Cyfnod 1 y prosiect ym mis Tachwedd 2005, pan gasglwyd ymchwil ar fenywod ym myd busnes yn y ddwy ardal. O’r ymchwil hwn, roedd y tîm prosiect yn medru dysgu cryn dipyn am y math o fusnesau a sefydlir gan fenywod, eu huchelgais o ran eu busnesau a’r sialensau y maent yn eu hwynebu. Yn anad dim, nodwyd anghenion hyfforddi presennol menywod sy’n berchen busnes yn yr ardaloedd.

Cliciwch yma i weld canlyniadau’r ymchwil

Ar hyn o bryd mae’r tîm ymchwil wrthi’n brysur yn llunio rhaglen hyfforddi menter sydd wedi’i chreu’n arbennig i ddiwallu anghenion menywod mewn busnes. Bydd y rhaglen yn cyflwyno cyfres gynhwysfawr o sgiliau rheoli i fenywod sydd eisoes wedi cychwyn busnes ac sy’n awyddus i ddatblygu eu menter ymhellach. Bydd y rhaglen yn rhedeg am ddeuddeg mis cyfan ac yn ystod yr amser hwn darperir cyfuniad o weithdai, seminarau a mentora i'r rhai sy’n cymryd rhan. Bydd y rhaglen hyfforddi yn cael ei chynnig i 20 o gyfranogwyr yn Ne Ddwyrain Iwerddon a 20 cyfranogwr arall yn Ne Orllewin Cymru. Bydd y ddwy raglen yn rhedeg ar yr un pryd a bydd cyfle i gyfranogwyr Iwerddon a Chymru gwrdd sawl gwaith drwy gydol y cwrs.

Cliciwch yma i weld manylion y cwrs



 
Female Entrepreneurs of Ireland and Wales
University of Aberystwyth WIT Centre for Entrepreneurship Interreg