CEFNDIR YR ASTUDIAETH
Dechreuwyd y prosiect oherwydd diffyg a ganfyddir o ran cefnogaeth i fusnesau dan arweiniad menywod yn ne-ddwyrain Iwerddon a de-orllewin Cymru.
Ceir cysylltiadau agos ac elfennau tebyg rhwng tirwedd economaidd Iwerddon a’r DU. Gwelir sawl tebygrwydd agos iawn rhwng ardal de-ddwyrain Iwerddon a de-orllewin Cymru yn enwedig. Mae’r ddwy ardal yn bennaf yn wledig eu natur ac mae sail yr economi’n dibynnu’n drwm ar amaethyddiaeth a chynnyrch sy’n gysylltiedig ag amaethyddiaeth, gweithgynhyrchu a gwasanaethau ar gyfer y sylfaen diwydiannol hwn. Mae’r ddau ranbarth hefyd yn cael eu gwthio i'r cyrion o ganlyniad i'r ffordd y mae'r boblogaeth wedi ei ledaenu a’u pellter o ganolfannau torfol lle y mae polisi yn cael ei ddatblygu a phenderfyniadau'n cael eu gwneud.
Mae ymchwil gychwynnol wedi canfod y canlynol:
Iwerddon:
-
Poblogaeth de-ddwyrain Iwerddon yw 423,000 a 44% o’r boblogaeth honno dan 29 oed (mae 30% o’r boblogaeth o dan 19 oed)
-
Mae 50% o’r rhai sy'n mynd ymlaen i addysg drydyddol yn gwneud hynny mewn sefydliad y tu allan i’r rhanbarth ac mae dros
-
60% o’r graddedigion o’r sefydliadau trydyddol yn y rhanbarth yn cael gwaith y tu allan i’r rhanbarth (Dee, 2004).
-
Mae lefelau diweithdra yn y de-ddwyrain yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol o 4.2% (Waterford = 7.05%, Wexford = 5.8%, Carlow = 4.8%, De Tipperary 4.3% a Kilkenny = 3.1% (ffynhonnell CSO Rhagfyr 2004)).
-
Nid yw lefel yr incwm i’w wario ond 88% o’r cyfartaledd cenedlaethol (Dee 2004).
-
Mae rhwng 7.5% ac 14% o holl fusnesau Iwerddon yn cael eu rheoli gan fenywod (Henry a Kennedy, 2002).
- Am bob 100 o entrepreneuriaid gwrywaidd yn Iwerddon, nid oes ond 29 entrepreneur benywaidd (Fitzsimons, O’Gorman, Hart a McGloin, 2004).
Cymru:
- Mae de-orllewin Cymru yn cynnwys awdurdodau unedol Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.
- Mae natur wledig yr economi’n dylanwadu’n drwm ar strwythur yr economi yn ne-orllewin Cymru ac mae gweithgarwch sy’n gysylltiedig â ffermio’n parhau’n sylweddol.
- Y sector busnesau bach sy’n gyfrifol am drwch y gyflogaeth ac ychydig iawn o gyflogwyr mawr sydd gan y rhanbarth. Mae trwch y boblogaeth yn isel o ran eu nifer ac mae cydbwysedd y boblogaeth yn bendrwm tuag at yr henoed.
- Roedd y CMC (GDP) yng Nghymru yn £12,629 y pen o’r boblogaeth ym mis Ionawr 2005, o’i gymharu â £15,980 i’r DU yn ei chrynswth. Gan Gymru mae’r CMC isaf yn y DU gyfan, 79% o’r cyfartaledd. Mae cyfartaledd enillion crynswth hyd yn oed yn is yn ne-orllewin Cymru gyda CMC yn 65% o gyfartaledd y DU.
- Cyfanswm yr hunangyflogedig yng Nghymru yw 12% a chyfanswm y benywod yw 3%. Mae hyn yn is na chyfartaledd y DU ac fe ddengys fod yn rhaid annog gweithgarwch entrepreneuriaid ymhlith menywod yng Nghymru.
- Un o brif themâu strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru yw annog mwy o fenter ymhlith grwpiau a chymunedau difreintiedig a hybu cyfraddau cychwyn a thyfu busnesau yn eu mysg. Dau grŵp o bobl sydd wedi’u targedu ar gyfer y strategaeth yw menywod a grwpiau lleiafrifol.
Canfyddiadau ymchwil eraill:
- Dengys Brush (1992) fod menywod sy’n berchenogion busnes yn debyg i ddynion sy’n berchenogion busnes ar draws rhai ffactorau demograffig, problemau a nodweddion busnes. Fodd bynnag mae menywod yn wahanol iawn ar draws dimensiynau unigol sy’n gysylltiedig â sgiliau, addysg, profiad gwaith, dull o greu busnes neu gyrraedd amcanion busnes, problemau a pherfformiad.
- Gellir gweld y gwahaniaethau rhwng entrepreneuriaid gwrywaidd a benywaidd yn y DU gan fod menywod yn dueddol o ganolbwyntio ar ddiwydiannau manwerthu a gwasanaeth a bod ganddynt lai o brofiad gwaith blaenorol, hyfforddiant a phrofiad busnes (Carter et al, 2001)
- Dengys ymchwil fod angen amlwg gallu cael manteisio ar hyfforddiant. Mae llawer o’r polisïau sydd wedi annog datblygu hyfforddiant i entrepreneuriaid wedi bod yn 'ddall o ran gender' ac fel y cyfryw “yn gwasanaethu i gryfhau - os yn ddiarwybod - yr anghydraddoldeb cyffredinol sy’n seiliedig ar gender” (OECD, 2004).
- Mae Carter (2000b) yn dadlau bod yn rhaid i raglenni o’r fath ymdrin â’r profiadau benywaidd mewn rhaglenni cychwyn busnes e.e. sefyllfa ariannol wannach, amharodrwydd i ymgymryd â dyledion mawr ac effaith tangyfalafu ar berfformiad eu cwmnïau yn y dyfodol.
|